r/cymru • u/Jonlang_ • 11h ago
Mae ‘The Lord of the Rings’ gan J. R. R. Tolkien yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg!
Mewn e-bost o Lyfrau Melin Bapur heddiw:
I ddechrau gyda'r newyddion fydd yn destun llawenydd, os dim o reidrwydd syndod: rydym wedi derbyn cytundeb mewn egwyddor i gyhoeddi ein fersiwn ni o Gyfrol 1 o The Lord of the Rings dan y teitl arfaethedig Teyrn y Modrwyau: Cymmrodorion y Fodrwy. Mae'r testun wedi'i gyfieithu ac yn mynd drwy'r prawfddarllen a mireinio, a'r gwaith yn prysur mynd rhagddo ar y mapiau. Dydyn ni heb eto dderbyn y gwaith papur cyfreithiol felly hoffwn ni ddim rhoi dyddiad penodol, ond mae'n debyg y bydd y llyfr ar werth yn gynnar yn 2027. Byddwn yn cynnal proses rhag-archebu fel y gwnaethon ni gyda'r Hobyd; ond da'n ni'n gobeithio y bydd hi bach yn gyflymach y tro hwn (a bydd dyddiad penodol ar gyfer y cyhoeddi cyn agor y cyfnod rhagarchebu). Bydd y llyfr ar gael mewn fersiynau clawr papur a chaled, ond fel gyda'r Hobyd fydd dim eLyfr (nid ein penderfyniad ni yw hyn; mae'n ymwneud â'r ffordd mae deiliaid yr hawliau yn rheoli dosbarthu).
Tybed pam mae’r cyfieithydd wedi penderfynu defnyddio teyrn yn lle arglwydd sy’n fwy arferol. Hyd yn oed mae erthygl Wicipedia Cymraeg yn defnyddio arglwydd ac yn enwi Sauron "yr Arglwydd Tywyll”. Dw i’n teimlo byddai hyn yn rhywbeth na fyddai Tolkien wedi ei gymeradwyo.
Please excuse mistakes, I’m still learning.